Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4, Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 8 Mehefin 2022
Amser:
09.30
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Lleu Williams
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddDiwylliant@senedd.cymru
------
Cofrestru cyn y cyfarfod
(09.00-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
(09.30)
2 Ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gydag elusennau chwaraeon (1)
(09.30-10.15) (Tudalennau 1 - 36)
Mark Lawrie, Prif Swyddog Gweithredol GemauStryd
Claire Lane, Cyfarwyddwr Cymru GemauStryd
Fiona Reid, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru
Briff Ymchwil
Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu
Ymateb i'r ymgynghoriad gan GemauStryd
Egwyl
(10.15-10.25)
3 Ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gydag elusennau chwaraeon (2)
(10.25-11.10) (Tudalennau 37 - 46)
Gary Lewis, Cyfarwyddwr Chwaraeon a Phrentisiaethau, Urdd Gobaith Cymru
Emily Reynold, Cyfarwyddwr Rhaglenni Cenedlaethol, Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid
Ymateb i'r ymgynghoriad gan Urdd Gobaith Cymru
Egwyl
(11.10-11.20)
4 Ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gydag academyddion
(11.20-12.00)
Melitta McNarry, Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru, Prifysgol Cymru
5 Papurau i'w nodi
(12.00)
5.1 Ymateb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i argymhellion yn Adroddiad y Pwyllgor ar wrandawiad cyn penodi: Yr ymgeisydd a ffefrir ar gyfer Cadeirydd Chwaraeon Cymru
(Tudalennau 47 - 48)
5.2 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch araith y Frenhines 2022
(Tudalennau 49 - 50)
5.3 Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch Rheoliadau drafft Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022
(Tudalennau 51 - 52)
Canlyniad ymgynghoriad Llywodraeth Cymru
5.4 Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 4 Mai 2022
(Tudalen 53)
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
(12.00)
7 Ôl-drafodaeth breifat
(12.00-12.15)
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Diogelwch Ar-lein
(12.15-12.25) (Tudalennau 54 - 61)
Nodyn Cyngor Cyfreithiol
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg , Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch llythyr at Lywodraeth y DU ar y Bil Diogelwch Ar-lein
9 Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd: Ymgynghoriad ar y Cynllun drafft
(12.25-12.30) (Tudalennau 62 - 95)
Llythyr gan Rhun ap Iorwerth AS, Comisiynydd, at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol
Gohebiaeth ddrafft gan y Cadeirydd: I’w hystyried